Help us to get our sixth site – Maesgwyn Isaf - up and running. With your support we can make this farm ready to welcome new entrant farmers to work this land in an agroecological way, building on the legacy of Jenn and Stuart Carter who gifted this farm to us.
Maesgwyn Isaf is a 47 acre farm in Carmarthenshire in South Wales. Jenn and Stuart lived and worked on this land for over 20 years. They spent this time increasing biodiversity, and planting over 13,000 trees on the land. On their passing, Jenn and Stuart wanted people to continue their life’s work, so they made the decision to leave it to the Ecological Land Cooperative in their wills.
Our vision is to see a living, working countryside where land is valued as a way to enhance the good of community, countryside and the natural world. Revitalising rural economies, new entrants are supported into agriculture by making access to land a reality for all - not just the few. The land we own, like this farm in Wales, is held in perpetuity; for the benefit of the community.
On our sites we want to see low-impact, land-based livelihoods flourish. Through the stewardship of land our communities create healthful, wholesome and ecologically sound food and land-based products that benefit people and the biosphere - now, and into the future. On our other sites our stewards run small scale farms that are growing an amazing range of produce for their local communities including veg box schemes, edible herbs and flowers, wholesale organic vegetables and salads, heritage fruit trees, and a farm to fork food business.
With this, our newest site, we have to get the farmhouse fit to live in before the winter sets in. Delays in probate have left the building empty for two years and unfortunately the house has become dilapidated and in need of repair to make it habitable once again. The wood burning stove that heats the house no longer works; many of the interior walls are damp; paint is peeling; the roof isn't weathertight and the wiring needs attention.
As there are many acres of land available and ready for horticulture and small-scale organic livestock farming, we would like this building to be a home to a number of new entrant farmers. All this additional work will enable us to get the house ready to accommodate them.
The money raised will be spent stripping out the house and making it safe and weathertight, restoring the wood burning stove and boiler so the whole building can be heated using resources from the farm’s extensive woods, and repairing the wind turbine which will provide renewable energy to the national grid.
For the local community having the farm revitalised will not only mean the availability of locally grown and reared food; all our farms are local hubs where people get volunteering opportunities, traineeships in organic growing and natural animal management, educational sessions for their children, open days and more. And as this farm has the long distance Landsker Trail footpath running through it, walkers and visitors can access the Peace Wood that Jenn and Stuart created to share this beautiful place with everyone.
At a time when the effects of climate change are becoming a reality, our vision is to enable more people to have access to sustainable, locally grown and reared food, and show that it is possible to provide livelihoods for new entrant farmers while building biodiversity and soil health.
Your donations will help us to rejuvenate the farm with new people working the land, preserving the biodiversity of the site and ensuring that Jenn and Stuart’s amazing commitment to Maesgwyn Isaf is continued for generations to come.
ABOUT THE ECOLOGICAL LAND COOPERATIVE
The Ecological Land Cooperative (ELC) is a community benefit society, co-operative in structure, established to address the lack of affordable sites for ecological land-based livelihoods in England and Wales. The Ecological Land Cooperative is supported by the Ecological Land Trust which is a registered charity no. 1158032. They work to address a range of complex and deep-rooted social and environmental challenges in a simple and pragmatic way: by removing barriers to land access for sustainable uses. Set up in 2009, the ELC’s core business model is the acquisition of land, securing planning permission and installing infrastructure for clusters of affordable residential smallholdings. Smallholders are provided with permission to build their own sustainable home with off-grid utilities and road access.
**********************************************************************************
Cymraeg
Ein stori
Helpwch ni i roi ein chweched safle – Maesgwyn Isaf – ar waith. Gyda’ch cefnogaeth chi gallwn wneud y fferm hon yn barod i groesawu ffermwyr newydd i weithio’r tir hwn mewn ffordd agroecolegol, gan adeiladu ar etifeddiaeth Jenn a Stuart Carter a roddodd y fferm hon yn anrheg i ni.
Fferm 47 erw yn Sir Gaerfyrddin yn Ne Cymru yw Maesgwyn Isaf. Bu Jenn a Stuart yn byw ac yn gweithio ar y tir hwn am dros 20 mlynedd. Fe wnaethant dreulio’r amser hwn yn cynyddu bioamrywiaeth, ac yn plannu dros 13,000 o goed ar y tir. Pan fyddent farw, roedd Jenn a Stuart eisiau i bobl barhau â gwaith eu bywyd, felly gwnaethant y penderfyniad i’w adael i’r Ecological Land Cooperative yn eu hewyllys.
Ein gweledigaeth yw gweld cefn gwlad byw, gweithredol lle mae tir yn cael ei werthfawrogi fel ffordd o wella lles cymuned, cefn gwlad a byd natur. Gan adfywio economïau gwledig, mae newydd-ddyfodiaid yn cael eu cefnogi i droi at amaethyddiaeth trwy wneud mynediad i dir yn realiti i bawb - nid dim ond yr ychydig. Mae’r tiroedd yr ydym yn berchen arnynt, fel y fferm hon yng Nghymru, yn cael eu dal yn dragywydd; er budd y gymuned.
Ar ein safleoedd rydym am weld bywoliaethau gydag effaith isel ar y tir yn ffynnu. Trwy stiwardiaeth tir mae’n cymunedau’n creu bwyd iachus, maethlon ac ecolegol gadarn, a chynnyrch y tir sydd o fudd i bobl a’r biosffer – yn awr, ac i’r dyfodol. Ar ein safleoedd eraill mae ein stiwardiaid yn rhedeg ffermydd ar raddfa fach sy’n tyfu amrywiaeth anhygoel o gynnyrch ar gyfer eu cymunedau lleol, gan gynnwys cynlluniau bocsys llysiau, perlysiau a blodau bwytadwy, llysiau a salad organig cyfanwerthol, coed ffrwythau treftadaeth, a busnes bwyd o’r fferm i’r fforc.
Yn yr achos hwn, ein safle mwyaf newydd, mae'n rhaid i ni gael y ffermdy yn addas i fyw ynddo cyn i'r gaeaf ddangos ei ddannedd. Mae oedi mewn profiant wedi gadael yr adeilad yn wag ers dwy flynedd ac yn anffodus mae’r tŷ wedi mynd yn adfail ac angen ei atgyweirio i’w wneud yn addas i fod yn gartref unwaith eto. Nid yw'r stôf llosgi coed sy'n gwresogi'r tŷ yn gweithio mwyach; mae llawer o'r waliau mewnol yn llaith; paent yn plicio; mae'r to yn gollwng ac mae angen sylw ar y gwifrau.
Gan fod sawl erw o dir ar gael ac yn barod ar gyfer garddwriaeth a ffermio da byw organig ar raddfa fach, hoffem i’r adeilad hwn fod yn gartref i nifer o ffermwyr newydd. Bydd yr holl waith ychwanegol hwn yn ein galluogi i gael y tŷ yn barod i roi llety iddynt.
Bydd yr arian a godir yn cael ei wario ar stripio’r tŷ a’i wneud yn ddiogel ac yn ddiddos rhag y tywydd, adfer y stôf llosgi coed a’r boeler fel y gellir gwresogi’r adeilad cyfan gan ddefnyddio adnoddau o goedwigoedd helaeth y fferm, a thrwsio’r tyrbin gwynt a fydd yn darparu ynni adnewyddadwy i’r grid cenedlaethol.
I'r gymuned leol, bydd adfywio'r fferm nid yn unig yn golygu argaeledd bwyd wedi'i dyfu a'i fagu'n lleol; mae ein holl ffermydd yn ganolbwyntiau lleol lle mae pobl yn cael cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddeiaethau mewn tyfu organig a rheoli anifeiliaid yn naturiol, sesiynau addysgol i'w plant, diwrnodau agored a mwy. A chan fod gan y fferm hon lwybr troed hir Llwybr Landsker yn rhedeg drwyddi, gall cerddwyr ac ymwelwyr gael mynediad i’r Goedwig Heddwch a greodd Jenn a Stuart i rannu’r lle hardd hwn gyda phawb.
Ar adeg pan fo effeithiau newid hinsawdd yn dod yn realiti, ein gweledigaeth yw galluogi mwy o bobl i gael mynediad at fwyd cynaliadwy, wedi’i dyfu a’i fagu’n lleol, a dangos ei bod yn bosibl darparu bywoliaeth i ffermwyr newydd wrth adeiladu bioamrywiaeth ac iechyd y pridd.
Bydd eich rhoddion yn ein helpu i adnewyddu’r fferm gyda phobl newydd yn gweithio’r tir, gan warchod bioamrywiaeth y safle a sicrhau bod ymrwymiad anhygoel Jenn a Stuart i Faesgwyn Isaf yn parhau am genedlaethau i ddod.
AM YR ECOLOGICAL LAND COOPERATIVE
Mae’r Ecological Land Cooperative (ELC) yn gymdeithas budd cymunedol sy’n gydweithredol o ran strwythur, a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r diffyg safleoedd fforddiadwy ar gyfer bywoliaethau ecolegol ar y tir yng Nghymru a Lloegr. Cefnogir yr Ecological Land Cooperative gan yr Ymddiriedolaeth Tir Ecolegol sy'n elusen gofrestredig rhif. 1158032. Maent yn gweithio i fynd i'r afael ag ystod o heriau cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth a dwfn mewn ffordd syml a phragmatig: trwy ddileu rhwystrau i fynediad i dir at ddefnydd cynaliadwy. Wedi’i sefydlu yn 2009, model busnes craidd yr ELC yw caffael tir, sicrhau caniatâd cynllunio a gosod seilwaith ar gyfer clystyrau o fân-ddaliadau preswyl fforddiadwy. Rhoddir caniatâd i dyddynwyr adeiladu eu cartref cynaliadwy eu hunain gyda chyfleustodau oddi ar y grid a mynediad ffordd.
**********************************************************************************
For a full Welsh translation of this fundraising campaign please visit our website at
https://ecologicalland.coop/cy/crowdfunder/